Pethau I’w Gwneud
Mae yna nifer iawn o bethau i ddenu’r ymwelwyr ym Mae Ceredigion. Beth ydych chi’n hoffi ei wneud? Os ydych yn hoff o grwydro o amgylch gerddi hyfryd, does dim angen i chi edrych ymhellach.
TAI A GERDDI YNG NGHEREDIGION
Mae yna nifer o eiddo yn perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, gyda Llanerchaeron yn llai na 10 munud i ffwrdd mewn car.
Mae Cae Hir ychydig yn bellach i ffwrdd. Crëwyd yr ardd gan Iseldirwr a oedd yn siarad Cymraeg ac yn meddu ar weledigaeth, sef troi 6 erw o dir diffrwyth llechweddog yn ardd brydferth, werth ei gweld. Ychydig ymhellach i ffwrdd eto mae gerddi Aberglasni, sydd wedi ymddangos ar gyfres deledu BBC. Mae’n le hudolus i’r rhai sy’n hoffi diweddglo rhamantus yn ogystal â garddio. Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru hefyd yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin.
Mae’r mwyafrif yn gwerthu planhigion yn ogystal â chynnig lluniaeth.
NATUR A BYWYD GWYLLT YNG NGHEREDIGION
Os mai natur a bywyd gwyllt sy’n mynd â’ch bryd, mae yna ddigonedd o bethau ar eich cyfer yng Ngheredigion. Mae’r Barcud Coch yn adennill tir o ran ei niferoedd, wedi cynyddu yn yr ardal hon o lond llaw o adar i tua 200 a mwy o barau bridio. Gallwch weld yr adar hyn gyda sicrwydd mewn nifer o fannau pwrpasol ac yn wir nid yw’n anghyffredin i weld y gynffon fforchog uwch eich pen pa le bynnag a fyddwch yn yr ardal.
Mae hefyd gennym boblogaeth o Ddolffiniaid Trwynbwl, Llamidyddion Harbwr a Morloi Llwyd yr Iwerydd sydd wedi ymgartrefi ym Mae Ceredigion. Gellir gweld y dolffiniaid yn aml o’r traethau ac mae’n bosibl mynd ar drip o amgylch y Bae i weld y bywyd gwyllt o Harbwr Aberaeron a Cheinewydd (Newquay) o Basg hyd at Hydref.
TRENAU STÊM
Gall y rhai sydd â’u bryd ar drenau stêm hefyd gael boddhad yn yr ardal hon. Mae Rheilffordd Cwm Rheidol yn cludo teithwyr ar hyd y cwm prydferth o Aberystwyth i Bontarfynach. Mae yna nifer o reilffyrdd eraill yn yr ardal ac mae’r manylion ar gael ar wefan ‘Great Little Trains of Wales’.
TECHNOLEG AMGEN
Gallwch dreulio diwrnod addysgiadol a hynod o ddiddorol yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen sydd ychydig i’r gogledd o Fachynlleth. Bwyd llysieuol yn unig sydd yn y caffi ac mae wedi ennill gwobr Egon Ronay.
Y CELFYDDYDAU
Mae nifer o ganolfannau diwylliannol yn Aberystwyth. Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar safle’r Brifysgol ac yn gartref i theatr, sinema a nifer o wyliau arbennig drwy gydol y flwyddyn. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd wedi’i lleoli yn Aberystwyth.
GWYLIAU BWYD
I’r rhai sydd â’u bryd ar fwydydd blasus, cynhelir gwyliau bwyd ledled Ceredigion a chanolbarth Cymru ; Gŵyl Fwyd Llambed a Gŵyl Bwyd Môr Aberaeron yng Ngorffennaf yn ogystal â Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi yn Awst.
GOLFF
Mae yna nifer o gyrsiau a meysydd golff gerllaw yn Borth ac Ynyslas, Aberteifi, Penrhos ac Aberystwyth. Mae yna gyrsiau 9 twll ym Mhenrhos, Llambed, Llangrannog a Rhydyfelin.
DIGWYDDIADAU ERAILL A DOLENNI
Mountainland Rovers – Mae’r busnes teuluol yn cynnig Saffari 4×4 Cymreig a hynny ar ac oddi ar y ffordd ynghyd â chyfle i hurio beiciau (wedi’i leoli ger Tregaron)
Cynhaliwyd Gŵyl Merlod a Chobiau Cymreig Aberaeron gyntaf yn 2002 gan brofi’n gymaint o lwyddiant nes bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn flynyddol.
Gwinllannoedd yng Nghymru? Oes – mae gwinllan Ffynnon Las gyferbyn â Gwesty Llys Aeron!
Cyfle am ychydig o faldod yn Roots Hair & Beauty Salon, Aberaeron – croeso i fenywod, dynion a phlant
Gwefan Ceinewydd – llawer o wybodaeth am Fae Ceredigion
BBC rhagolygon tywydd 5 diwrnod i Aberaeron
BBC Traffig a Theithio ar gyfer Canolbarth Cymru gan gynnwys y newyddion teithio diweddaraf
BBC Radio Wales
Radio Ceredigion (gorsaf radio ddwyieithog leol )
BBC De- Orllewin Cymru yn cynnwys dolen i We-gamera Byw o’r Pâl
Gwefan Twristiaeth Cyngor Sir Ceredigion
Gwybodaeth am drefi Ceredigion
Labyrinth y Brenin Arthur yng Nghorris a Chanolfan Grefftau Corris
Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Cyf os am wybodaeth ar Sioe Frenhinol Cymru a digwyddiadau eraill
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mapiau o Aberaeron, Ceredigion, Gorllewin Cymru
Rhestrwyd y dolenni ar y dudalen hon er cyfleustra i’r ymwelwyr yn unig. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb nac ychwaith yn rhoi unrhyw warant, sicrwydd na chynrychiolaeth, ymhlyg neu arall, am gynnwys neu gywirdeb y safleoedd trydydd person hyn. Os nad yw’r dolenni yn gweithio neu eich bod yn cael trafferth gyda’n gwefan, a fyddech gystal a chysylltu a ni.
CONTACT US
Llys Aeron Guest House
Lampeter Road
Aberaeron
Ceredigion
SA46 0ED