Gwesty Llys Aeron Aberaeron
Jonathan a Kerry yn estyn croeso twymgalon i chi i’w gwesty moethus yng Ngheredigion – Llys Aeron – am wely a brecwast yn ogystal â llety hunan-ddarpar.
Mae Gwesty Llys Aeron, wedi ennill statws 5 seren gan ‘Croeso Cymru’ ac mae’n un o’r sefydliadau gwely a brecwast mwyaf poblogaidd yn Aberaeron. Cafodd Llys Aeron ei adeiladu ar ddechrau’r 1800au ac mae’n un o’r tai cerrig hynaf a mwyaf urddasol yn y dref Sioraidd brydferth hon ar arfordir Gorllewin Cymru. Mae’r gwesty’n ddelfrydol ar gyfer treulio gwyliau hir hamddenol neu os am ysbaid byr, boed yn wely a brecwast neu’n llety hunan-ddarpar.
Mae’r adeilad wedi’i adnewyddu gyda’r bwriad o gyfuno moethusrwydd gyda chyfleusterau modern a chyfforddus. Mae yna ddigon o le i ymlacio naill ai yn yr ystafell wydr neu yn yr ardd gysgodol sydd â wal o’i chwmpas. Mae gennym ddewis eang o frecwastau at ddant pawb yn amrywio o frecwast wedi’i goginio ar Aga. Mae yna ddigon o le i barcio ceir oddi ar y briffordd yn ogystal â garej i gadw beiciau ac offer pysgota ac ati dan glo.
Mae yna nifer helaeth o fwytai o safon ar gael yn lleol. Cewch gyfle i fwynhau nifer o wahanol fwydydd yn amrywio o bysgodyn a sglodion yn yr awyr agored i ‘haute cuisine’.
What our guests say
“Most glorious accommodation. Perfect luxury get away. Many thanks. See you again.”
Bill